Mae sawl ffordd o arbed ynni a lleihau’ch biliau ynni y gaeaf hwn. Mae pob cam bach yn arwain at arbediad mwy a bydd yn cadw’ch cartref yn gynnes a chlyd.

Arbed ar wresogi

  • Os oes gennych chi amserydd ar eich system gwres canolog, gosodwch y gwres a’r dŵr poeth i ddod ymlaen pan fyddwch eu hangen yn unig.
  • Os ydych chi’n troi’ch prif thermostat i lawr 1 radd, gallwch arbed tua £60 ar eich bil ynni. Ond gofalwch fod eich cartref dal i fod yn ddigon cynnes yn ystod y tywydd oer.
  • Gallai gosod thermostat ystafell, rhaglennydd a falfiau thermostatig ar eich rheiddiaduron a’u defnyddio nhw’n ddoeth arbed oddeutu £75 y flwyddyn i chi.
  • Caewch eich llenni fin nos i atal gwres rhag dianc drwy’r ffenestri a chwiliwch am ddrafft o gwmpas ffenestri a drysau.
  • Gall atal drafft o’ch ffenestri a’ch drysau a llenwi craciau mewn lloriau a byrddau sgyrtin arbed oddeutu £25 y flwyddyn ar filiau ynni.
  • I wneud y gorau o'r gwres rydych chi'n talu amdano, fe allech chi gael Mesurydd Clyfar i helpu i olrhain a rheoli'ch defnydd o ynni.

Arbed ar offer

  • Gall diffodd eich offer yn llwyr yn lle’i adael ar fodd segur arbed £35 y flwyddyn i chi, a chofiwch beidio â gadael gliniaduron a ffonau symudol ar wefr yn ddiangen.

Arbed yn y gegin

  • Defnyddiwch bowlen i olchi llestri yn hytrach na rhedeg tap, defnyddiwch eich peiriant golchi unwaith yn llai bob wythnos, a llenwch y tegell gyda faint o ddŵr rydych chi ei angen yn unig a gallech arbed oddeutu £39 y flwyddyn yn y gegin.

Arbed yn yr ystafell ymolchi

  • Treuliwch funud yn llai yn y gawod bob dydd a gallai teulu o bedwar arbed £75 y flwyddyn ar filiau ynni a dŵr.
  • Mae tap sy’n rhedeg yn gwastraffu 6 litr o ddŵr bob munud, felly trowch y tap i ffwrdd wrth frwsio eich dannedd, eillio neu olchi’ch wyneb.
  • Gallai newid pen cawod aneffeithlon am un sy’n defnyddio dŵr yn effeithlon arbed £38 y flwyddyn ar filiau nwy ac oddeutu £53 ar filiau dŵr i aelwyd o bedwar.

Arbed ar oleuadau

  • Diffoddwch eich goleuadau pan nad ydych chi’n eu defnyddio. Os ydych chi’n diffodd golau am rai eiliadau’n unig, byddwch yn arbed mwy o ynni na’r hyn y mae’n ei gymryd i’r golau gynnau eto. Bydd hyn yn arbed oddeutu £15 y flwyddyn i chi ar eich biliau ynni.
  • Newidiwch eich bylbiau pan allwch chi am rai LED sy’n defnyddio ynni’n effeithlon – gallai arbed oddeutu £40 y flwyddyn i chi ar filiau ar gyfartaledd.

Ffyrdd eraill o arbed

Gall mesuryddion clyfar eich helpu i olrhain eich defnydd o ynni a deall lle y gallwch wneud newidiadau a all arbed arian ar eich biliau ynni - gofynnwch i'ch cyflenwr ynni am drefnu gosodiad.

Am ragor o wybodaeth am y gwahanol ffyrdd y gallwch leihau eich biliau ynni dros y gaeaf:

https://energysavingtrust.org.uk/home-energy-efficiency

Os ydych chi’n byw yn Lloegr, gall y Grant Cartrefi Gwyrdd ddarparu talebau gwerth hyd at ddwy ran o dair o’r gost o uwchraddio effeithlonrwydd ynni eich cartref. Edrychwch i weld a yw’ch cartref yn gymwys am grant ar wefan Llywodraeth y DU.

Os ydych chi’n byw yng Nghymru, cysylltwch â chynllun Nyth Llywodraeth Cymru ar 0808 808 2244 i weld a ydych chi’n gymwys am becyn o welliannau effeithlonrwydd ynni cartref am ddim fel boeler newydd, gwres canolog neu inswleiddio.

Mae Arbed yn dweud

Cofiwch gynnwys y teulu cyfan – gall pawb wneud eu rhan i arbed ynni!